Cwrdd â'n tîm

Dechreuodd cyn-ysgol Benllech gyda gweledigaeth syml ond pwerus: creu gofod lle gallai plant ffynnu a darganfod eu potensial trwy addysg ddwyieithog. Mae ein hangerdd am addysgu yn cael ei adlewyrchu yn ein staff gyda chymhwyster cydnabyddedig mewn gofal plant, sy’n dod â chyfoeth o brofiad ac ymrwymiad dwfn i feithrin cariad at ddysgu ym mhob plentyn. Anogir yr holl staff i fynychu hyfforddiant ychwanegol i  ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach.  Credwn yng ngrym cydweithio, o fewn ein tîm a chyda rhieni a sefydliadau lleol. Mae’r dull hwn a yrrir gan y gymuned yn ein galluogi i gynnig profiad addysgol cyfoethog sy’n gefnogol ac yn ddeinamig. Mae ein lleoliad yn cofleidio athroniaeth sy’n cael ei harwain gan y plentyn, sy’n annog archwilio a chreadigrwydd mewn amgylcheddau awyr agored a dan do. Rydym yn falch o gael ein cydnabod am ein hymroddiad i greu awyrgylch caredig a gofalgar lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u hysbrydoli.

 

Jackie Hall - Rheolwraig, CCLD Lefel 3 ar hyn o bryd yn astudio arweinyddiaeth a rheolaeth lefel 4, SENCO - Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, Cymorth Cyntaf Pediatrig, Diogelu categori C, Makaton Lefel 1 a 2, Diogelwch bwyd a hylendid lefel 2

Helo, Anti Jackie ydw i! A fi yw eich Rheolwr Cyn-ysgol, efallai y wnewch fy ngweld wrth y drws neu yn yr amser cylch

Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes gofal plant, ac wedi mynychu llawer o wahanol gyrsiau i sicrhau fy mod yn cael y gwybodaeth ddiweddaraf am y Cwricwlwm i Gymru.

Rwyf hefyd yn rhedeg fy musnes therapi cyfannol fy hun. Rwy'n hoff iawn o weithgareddau crefft, yoga ac ymwybyddiaeth gofalgar.

Yn fy amser hamdden rwy'n mwynhau gwneud gemwaith, darllen a mynd am dro.

Edrychaf ymlaen at gael llawer o hwyl gyda'r plant, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith, eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol.

 

Steph - CCLPD lefel 2 (bron wedi'i chwblhau ac yna yn symud ymlaen i lefel 3), Makaton Lefel 1 a 2, Diogelwch bwyd a hylendid lefel 2, cymorth cyntaf pediatrig

Helo! Anti Steph ydw i. Mae gen i ddau fachgen ifanc fy hun, sy'n fy nghadw'n brysur iawn!

Rwy'n mwynhau amser tu allan a darllen yn fy amser hamdden.

Byddwch yn dod o hyd i mi yn rhannu makaton gyda'r plant i annog lleferydd, iaith a chyfathrebu.

 

Rachael - wrthi yn cwblhau CCLPD lefel 2, lefel makaton 1 a 2, diogelwch bwyd a hylendid lefel 2

Helo! Anti Rach ydw i. Mae gen i ddau fachgen, Cai ac Eli, sy'n hoff o fy nghadw ar flaenau fy nhraed!

Rwyf yn hoff o badlo a chwarae gyda'r holl blant.

Rwyf yn hoffi bod allan a phlannu yn yr ardd gyda'r plant fel y gallwn wylio'r hyn a blannwyd gennym yn tyfu.4

 

Cara - BTEC Level 3 in CCLD, SENCO - Special Educational Needs Coordinator, Paediatric First Aid

Helo bawb, Anti Cara ydw i ac rydw i wedi bod yn gweithio ym maes gofal plant ers 2014. Dechreuais fy ngyrfa mewn meithrinfa ac yna es ymlaen i arbenigo mewn AAA gan weithio mewn ysgol. Ers hyn rydw i wedi bod yn nani breifat ers 2018. Rydw i wrth fy modd â gweithgareddau chwarae blêr, chwarae yn yr awyr agored a helpu plant i ddysgu pethau newydd a ffynnu yn eu datblygiad. Yn fy amser fy hun rydw i'n nofiwr cystadleuol brwd ac yn mwynhau bod allan ac yn archwilio'r awyr agored gyda fy nghi.

 

Meet Our Team

Benllech Preschool began with a simple yet powerful vision: to create a space where children could thrive and discover their potential through bilingual education. Our passion for teaching is reflected in our highly qualified staff that hold a recognised qualification in childcare, who bring a wealth of experience and a deep commitment to fostering a love for learning in every child. All staff are encouraged to attend additional training to  further develop their knowledge and skills.  We believe in the power of collaboration, both within our team and with parents and local organisations. This community-driven approach allows us to offer an enriching educational experience that is both supportive and dynamic. Our award-winning setting embraces a child-led philosophy, encouraging exploration and creativity in both outdoor and indoor environments. We are proud to be recognised for our dedication to creating a kind and caring atmosphere where children feel valued and inspired.

 

Jackie Hall - Manager - CCLD level 3 currently studying leadership and management level 4, SENCO - Special Educational Needs Coordinator, Paediatric First Aid, Safeguarding cat C, Makaton Level 1 & 2, Food safety & hygiene level 2

Hello I'm Auntie Jackie! I am your Preschool Manager, you may see me on the door or at circle time

I have over 20 years experience working in childcare, and have attended many different courses to ensure that I keep up to date with the Curriculum for Wales

I also run my own holistic therapy business. I am a big lover of craft activities, yoga and mindfulness.

In my spare time I enjoy making jewellery, reading and going for a walk

I look forward to having lots of fun with the children, helping them develop on their language skills, physical, emotional & mental wellbeing  

 

Steph - Room Leader - CCLPD level 3 Makaton Level 1 & 2, Food safety & hygiene level 2, Paediatric first aid

I am Auntie Steph, I have two young boys of my own, who keep me very busy.

I enjoy exploring outside and reading in my spare time.

You will find me sharing Makaton with the children to encourage speech, language and communication.

 

Rachael - completing CCLPD level 2, Makaton level 1 & 2, Food safety and hygiene level 2,

Hi, I’m Auntie Rach. I have 2 boys, Cai and Eli, that like to keep me on my toes!

I like having a paddle and getting stuck in with all the children.

I like being outside and planting in the garden with the children so that we can watch what we planted grow.

 

Cara - BTEC Level 3 in CCLD, SENCO - Special Educational Needs Coordinator, Paediatric First Aid

Hi everyone, I'm Auntie Cara and I've been working in childcare since 2014. I started my career within a nursery and then went onto specialising in SEN working at a school Since this Ive been a private nanny since 2018. I love messy play activities, outdoor play and helping children to learn new things and thrive in their development. In my own time Im a keen competitive swimmer and enjoy being out and about exploring the outdoors with my dog. 

 

Get in Touch!

Are you interested in learning more about Cynysgol Benllech Preschool? We'd love to hear from you!

Create Your Own Website With Webador